Rydym ni,
sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid a
deddfu bod holl sefydliadau achub anifeiliaid yn bodloni gofynion
gorfodol yn unol â’r adroddiad a luniwyd gan Weithgor
Sefydliadau Lles Anifeiliaid Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru ym
mis Hydref 2012. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi deddfwriaeth ar
waith yng Nghymru o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid (2006), i ddiogelu
anifeiliaid rhag esgeulustod a cham-drin.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae mwy a mwy o anifeiliaid yn dioddef cam-drin, esgeulustod ac yn
cael eu bridio mewn sefydliadau heb eu rheoleiddio sy’n
hysbysebu ei hunain yn Ganolfannau Achub, ac rydym yn galw ar
Gynulliad Cymru i ddeddfu o dan Ddeddf Anifeiliaid 2006 i geisio
rhoi’r gorau i hyn.
Prif ddeisebydd: Lisa Winnett
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013
Nifer y llofnodion: 265